top of page

DAMO SUZUKI

damo suzuki.jpg

Best known for his work with the pioneering German group Can, Damo Suzuki is a vocalist and improvisational musician whose creative wanderlust has taken him around the world, performing with a dizzying variety of collaborators. Suzuki had little experience as a musical performer before joining Can in 1970, but his bold, theatrical style and abstract lyrical sensibility put its stamp on three of the group's most memorable albums (1971's Tago Mago, 1972's Ege Bamyasi, and 1973's Future Days) before he left the group in 1973. After a decade away from music, Suzuki returned in 1983, shunning the recording studio in favor of improvised live performances. Working with established groups as well as "sound carriers" he often has never met before walking on-stage, Suzuki's music in the 21st century has found him relentlessly exploring the boundaries of spontaneous creativity.

 

For the Laugharne show Damo’s Sound Carriers will include Stephen Morris (New Order), Stephen Mallinder (Cabaret Voltaire), Euros Childs and Nik Turner (Hawkwind). Blimey.

 

https://www.damosuzuki.com/

​

Mae Damo Suzuki yn ganwr a cherddor byrfyfyr sy’n fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r grŵp arloesol o’r Almaen, Can. Mae anian anturus ei greadigrwydd wedi ei gario ledled y byd i gydweithio a pherfformio gydag amrywiaeth ryfeddol o artistiaid. Ychydig iawn o brofiad cerddorol oedd gan Damo cyn iddo ymuno â Can yn 1970; ond rhoddodd stamp unigryw ei arddull feiddgar a theatrig a’i synwyrusrwydd geiriol haniaethol ar dair o albymau mwyaf cofiadwy’r grŵp, ‘Tago Mago’ (1971), ‘Ege Bamyasi’ (1972) a ‘Future Days’ (1973) cyn iddo adael yn 1973. Wedi degawd i ffwrdd o fyd cerddoriaeth, fe ddychwelodd yn 1983. Ond yn hytrach na dychwelyd i’r stiwdio recordio fe drodd ei sylw at berfformiadau byrfyfyr byw. Weithiau mae’n gweithio gyda grwpiau adnabyddus, ac weithiau mae’n gweithio gyda ‘chludwyr sain’ (sound carriers) – yn amlach na pheidio, nid yw wedi cwrdd â’r ‘cludwyr nes iddo gamu i’r llwyfan i gychwyn perfformiad. Mae ei greadigrwydd cerddorol yn ystod yr 21ain ganrif wedi esgor ar archwiliad di-ildio o ffiniau creadigrwydd digymell.

 

Ar gyfer y sioe yma yn Nhalacharn, bydd ‘cludwyr sain’ Damo yn cynnwys Stephen Morris (New Order), Stephen Mallinder (Cabaret Voltaire), Euros Childs a Nik Turner (Hawkwind).

Wannwyl!

 

 

https://www.damosuzuki.com/

​

​

bottom of page