top of page

ADWAITH

"Adwaith win hands down as the coolest new band from Wales; they are new, fresh, young female musical talent, that's why I'm so excited”, Bethan Elfyn (BBC Radio Wales).

 

Mae Adwaith wedi bodoli erioed. Mae wedi bod yno ers y chwedegau, yn llwch llachar Roxy ac yn anhrefn fendigedig pync a'r cynnyrch a ddaeth yn ei sgil. Gan fod y sêr cywir wedi dod at ei gilydd ar linell, mae Adwaith wedi ymffurfio'n gorfforol ar ffurf Gwenllian Anthony (Gitâr fas, Mandolin), Hollie Singer (Llais, Gitâr), Eva Chelsea Free (Llais) a Heledd Owen (Drymiau). 

 

Gyda rhyddhau 'Pwysau', sengl cyntaf Adwaith, agorwyd pennod newydd, dewr a chyffrous yng ngherddoriaeth Cymru yn ogystal ȃ chynnig balm o garedigrwydd a chariad ar gyfer y gwrandawr.  Ar ddiwedd blwyddyn gythryblus a chynhyrfus llawenhawn fod y gân wedi'i chynnwys ar albwm #MoreinCommon, sy'n codi ymwybyddiaeth o'r elusen Gobaith nid Casineb (Hope not Hate) ac yn codi arian iddi. Trwy blethu harmoniau prydferth, naturiol Adwaith gyda threfniant cŵl a llac dinesig, a Heledd yn drymio'n ddeheuig tebyg i Krautrock mae'r gân yn agor meddyliau ac yn cydio yng nghalonnau tra'n dal i gadw'n ffyddlon i weledigaeth creadigol y band.

Mae holl ganeuon Adwaith yn creu perthynas uniongyrchol ȃ’r gwrandawr fel y mae ‘Haul’, ail sengl y band ar label Libertino, a ryddhawyd yn gynharach eleni. Yn gynharach roedd y band yn tynnu lluniau gyda dewis o liwiau tawel, digyffro ond y mae 'Haul' yn ffrwydro'n enfys o liwiau llachar. Enillodd y ddwy gȃn glod yn fuan iawn ac fe’u chwarewyd yn fynych ar y radio yn enwedig ar BBC Radio 1, Radio Wales a Radio Cymru (lle’r oedd ‘Haul’ yn gȃn yr wythnos ac fe’i chwaraewyd lawer gwaith) ac Amazing Radio. Gyda deunydd newydd ar y gweill a rhagor o deithiau o amgylch y DU wedi’u trefnu, bydd aelodau Adwaith yn gwneud y flwyddyn hon yn eiddo iddynt hwy.

 

“Mae Adwaith yn debyg i’r ‘Welsh Slits’ yn chwarae caneuon Johnny Cash wedi’u gosod yng nghyd-destun ôl pync ddinesig Europeaidd. Fel caneuon Buddy Holly, y Pixies a Velvet Underground mae cerddoriaeth Adwaith yn arwain y ffordd fel yr oedd Datblygu o’i blaen, Dyma gerddoriaeth ddigyfaddawd, sy’n torri calon mewn llai na thair munud; dyma ddyfodol cerddoriaeth Cymru yn syth o’n blaenau” - Decidedly

  

 

"Adwaith win hands down as the coolest new band from Wales; they are new, fresh, young female musical talent, that's why I'm so excited”, Bethan Elfyn (BBC Radio Wales).

 

Adwaith have always existed. They have been there since the sixties, through Roxy's filthy glitter, and within the glorious chaos of punk and its post-punk offspring. Now the relevant stars have aligned, Adwaith have been made physical in the form of Gwenllian Anthony (Bass, Mandolin), Hollie Singer (Vocals, Guitar), Eva Chelsea Free (Vocals) and Heledd Owen (Drums).

 

 

The release of the debut single ‘Pwysau’ by Adwaith heralded a new brave and exciting chapter for Welsh music, as well as being a comforting balm of kindness and love for the listener. This song was also proudly included on the #MoreInCommon album, raising funds and awareness for the charity Hope not Hate at the end of a turbulent and unsettling 2016. Moulding the delicate, natural beauty of Adwaith’s vocal harmonies to the cool urban detachment of the arrangement, and Heledd’s clipped Krautrock-like drum grooves, the song opened minds and captivated hearts, whilst still keeping true to the creative vision set out by the band. 

 

As with all Adwaith’s songs, they instinctively forge a direct emotional connection with the listener. ‘Haul’, the band’s second single for the label Libertino released early this year, is no exception. Whereas previously the band painted sounds with a palette of muted sombre colours ‘Haul’ explodes with bright golden sunshine. Both songs gained fast critical acclaim and extensive radio plays, most noticeably on BBC Radio 1, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru (Haul was play-listed as the song of the week) and Amazing Radio. With new material imminent and more touring around the UK planned, Adwaith will make this year theirs.

 

“Adwaith are like the Welsh Slits playing Johnny Cash songs all set in a distinctively European post-punk urban setting. Trailblazing like pioneering Welsh artist such as Datblygu before them, Adwaith's music is Buddy Holly, the Pixies, The Velvet Underground, uncompromising heartbreak in under three minutes - this is the future of Welsh music right in front of us" – Decidedl

bottom of page